Afon Waal
Afon yn yr Iseldiroedd ac un o ganghennau Afon Rhein yw Afon Waal. Y Waal yw'r gangen fwyaf o'r Rhein, sy'n ymrannu ger pentref Pannerden i greu Camlas Pannerden a'r Waal. Ger Westervoort mae Camlas Pannerden yn ymrannu i'r IJssel a'r Nederrijn.
Math | allsianel |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Grote rivieren |
Sir | Noord-Brabant, Zuid-Holland, Gelderland |
Gwlad | Yr Iseldiroedd |
Cyfesurynnau | 51.8917°N 5.5207°E, 51.8167°N 5.05°E |
Tarddiad | Afon Rhein |
Aber | Boven Merwede |
Llednentydd | Linge, Camlas Amsterdam–Rhine, Waalhaven |
Hyd | 82 cilometr |
Arllwysiad | 1,500 ±0.001 metr ciwbic yr eiliad |
Arferai'r Waal ymuno ag Afon Maas ger Woudrichem, ond mae ei chwrs yn awr wedi ei newid i gadw'r ddwy afon ar wahan yma, ac mae dŵr y Waal yn cyrraedd y môr ar hyd nifer o afonydd, y Noord, y Nieuwe Maas a'r Nieuwe Waterweg. Cysylltir y Waal ag Amsterdam a'r Nederrijn gan Gamlas Amsterdam-Rhein a chyda'r Maas gan Gamlas Maas-Waal ger Nijmegen a Chamlas Sint Andries.