1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin (Cymru) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn, ac eithrio’r darpariaethau a grybwyllir ym mharagraff (3), i rym ar 1 Ebrill 2021.
(3) Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Mehefin 2022—
(a)rheoliad 11;
(b)rheoliad 12;
(c)rheoliad 13;
(d)rheoliad 15 i’r graddau y mae’n ymwneud â swyddogaethau a roddir i Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin gan reoliad F1..., 12 neu 13.
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn rhl. 1(3)(d) wedi ei hepgor (25.3.2022) yn rhinwedd Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022 (O.S. 2022/372), rhlau. 1(2), 43(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 1 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)