Plas Iolyn
Gwedd
Plas Iolyn heddiw | |
Math | plasty |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Pentrefoelas |
Sir | Pentrefoelas |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 270.7 metr |
Cyfesurynnau | 53.0383°N 3.668°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Plasdy gerllaw pentref Rhydlydan, yn awr yn ne-ddwyrain bwrdeistref sirol Conwy, yw Plas Iolyn (cyfeiriad grid SH881503). Tu ôl i'r hen blasdy, i'r de, ceir Garn Prys (534m).
Hanes
[golygu | golygu cod]Bu Plas Iolyn yn gartref i'r teulu Prys, yn cynnwys dau aelod amlwg o'r teulu, Elis Prys (Y Doctor Coch) (1512? - 1594?) a'i fab Tomos Prys, 1564? - 1634), bardd ac anturiaethwr. Roedd y Dr Elis Prys yn noddwr hael i feirdd gogledd Cymru. Ymhlith y beirdd a ganodd glod lletygarwch Plas Iolyn y mae Tudur Aled, Siôn Tudur a Lewys Môn. Adnewyddwyd y plas tua'r flwyddyn 1560. Mae yn awr yn ffermdy.